“. . . rhyw ystyr hud” (pennod 2.8 o’r cwrs)

Mae’n debyg iawn fod awdur y Pedair Cainc wedi ei fagu mewn diwylliant lle’r oedd chwedleua’n ddigwyddiad cyffredin, fel yr oedd perfformiadau dramatig o farddoniaeth a monologau ac ymddiddanion fel y gwelir yn llenyddiaeth y cyfnod. O aelwydydd tlawd y werin i neuaddau’r bendefigaeth, roedd chwedlau fel rhai’r Pedair Cainc yn cylchredeg ar hyd ac ar led y wlad. Mae’n debyg y dangoswyd parch at chwedleua fel rhan bwysig o ddiwylliant gwâr y cyfnod.

Fel y gwelir mewn traddodiadau llafar ledled y byd, mae adrodd stori, boed hynny drwy gyfrwng dawns, cân, adrodd neu ddarllen, yn gyfrwng pwysig, os nad y cyfrwng pwysicaf ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth draddodiadol. Mae chwedlau fel rhai’r Pedair Cainc yn cyflwyno syniadau grymus drwy gyfrwng naratifau symbolaidd, gan gyflawni nod pwysicach na diddanwch syml. Er eu bod yn amlwg yn gallu cael eu defnyddio fel diddanwch, byddai chwedl draddodiadol hefyd wedi golygu gwahanol bethau i wahanol aelodau’r gynulleidfa. Byddai’r rheiny oedd wedi clywed y chwedlau droeon yn debyg o ddod i gasgliadau gwahanol na’r rheiny oedd yn dod i eistedd wrth draed y chwedleuwr am y tro cyntaf. Mae arddull gynnil y chwedlau’n gadael lle i’r dychymyg, ac yn rhoi cyfle i ddarllenydd neu wrandäwr ddehongli themâu gwahanol a chymryd safbwyntiau amrywiol.

Drwy beidio â dod i orffwys ar unrhyw un dehongliad terfynol, byddai cynulleidfa’n gallu myfyrio ar yr un symbolau a motiffau dro ar ôl tro heb eu dihysbyddu o ystyr. Byddai priodoledd o’r fath yn debyg iawn o ddiogelu poblogrwydd chwedl am gyfnod hir o amser, ac efallai ar adegau’n golygu ei bod yn cael ei gwerthfawrogi nid yn unig fel cofnod o’r ddysg frodorol ond hefyd fel ffynhonnell doethineb. Yn enwedig pan nad oes unrhyw reswm yn cael ei roi am ddigwyddiad neu weithred arbennig, byddai’n naturiol i gynulleidfa oedd yn gyfarwydd â’r chwedlau ddod at eu casgliadau eu hunain ynglŷn â’r arwyddocâd. Er enghraifft, does dim eglurhad yn y gainc gyntaf pam fod Pwyll yn troi ei gefn ar Frenhines Annwfn pob nos. Rhaid i ddarllenwyr a gwrandawyr ddod at eu casgliadau eu hunain am ymddygiad diwair yr arwr. Nid oes chwaith unrhyw gysylltiad amlwg rhwng yr helfa sy’n sbarduno taith Pwyll i Annwfn, ei ymddygiad yng ngwely’r frenhines, na lladdedigaeth Hafgan sy’n dilyn. Ond ar ôl darllen neu wrando ar y chwedl dro ar ôl tro, ar ôl cael cyfle i fyfyrio ar natur symbolaidd y naratif, byddai’n naturiol i rywun geisio clymu’r digwyddiadau hyn at ei gilydd.

Mae hyn yn awgrymu fod naill ai’r awdur ei hun neu’r traddodiad roedd yn rhan ohono’n ystyried bod ychydig o amwysedd yn beth da. Gwelir amwysedd fel rhan o arddull canu dyrys y Gogynfeirdd a cherddi rhyfeddol Llyfr Taliesin hefyd. Drwy ddenu cynulleidfa i fyfyrio ar arwyddocâd y chwedlau, drwy ein hysbrydoli i gwestiynu ystyr digwyddiadau, mae’r awdur yn ein gwahodd i ddod at ein casgliadau ni’n hunain. Un o nodweddion pwysicaf y Pedair Cainc ydi’r amwysedd hwnnw sy’n treiddio’r testun, hebddo ni fyddai’r awdur yn llwyddo i danio dychymyg ei gynulleidfa.

Byddai’n gamgymeriad tybio nad oedd cynulleidfaoedd canoloesol Cymru ddigon soffistigedig i ganfod natur symbolaidd y chwedlau hyn. Os ydi cymhlethdod barddoniaeth y cyfnod yn arwydd o unrhyw beth, mae’n amlwg roedd cynulleidfaoedd yn gwneud llawer mwy na glafoerian yn gegrwth mewn syndod twp ar ddigwyddiadau llythrennol y chwedlau. Byddai llawer mwy buddiol darllen y Pedair Cainc fel rhwydwaith o symbolau cymhleth sy’n cyflwyno mytholeg benodol yn hytrach na chasgliad llac o straeon arwynebol a gor-syml.

Advertisements

One thought on ““. . . rhyw ystyr hud” (pennod 2.8 o’r cwrs)

  1. Rwy’n cutuno’n llwyr bod rhaid caniatau i’r cynulleidfaoedd canoloesol y gallu i ganfod natur symbolaidd y chwedlau. Y problem yn hytrach yw bod pobol heddiw yn methu canfod yr ‘ystyr hud’.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s