W.J. Gruffydd a’r Pedair Cainc

Yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif roedd ysgolheigion yn credu mai gweddillion dryslyd hen fytholeg oedd y Pedair Cainc. Doedd Syr Ifor Williams, un o gewri’r cyfnod, ddim gwahanol yn hynny chwaith. Tybiodd mai straeon am Pryderi oedd y Pedair Cainc yn wreiddiol, yr unig gymeriad i ymddangos ym mhob cainc. Yn ei ragymadrodd i’w olygiad o destun Llyfr Gwyn Rhydderch, dangosodd mai un o ystyron canoloesol y term mabinogi oedd ‘campau ieuenctid’. Os felly, efallai mai chwedlau’n cofnodi campau ieuenctid Pryderi oedd y ceinciau gwreiddiol, ond dros amser, wrth i’r chwedlau gael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, cawsant eu cymysgu gyda chwedlau eraill o du allan i gylch gwreiddiol Pryderi. Mae’n ddamcaniaeth ddeniadol, ond efallai nad ydyw’n rhoi’r darlun cyflawn i ni.

W.J. Gruffydd

W.J. Gruffydd

Roedd nifer o gyfoeswyr Ifor Williams yn coleddu’r un farn ag ef, er enghraifft yr ysgolhaig a’r bardd W.J. Gruffydd. Yn ystod ei yrfa hir cyhoeddodd W.J. Gruffydd nifer o astudiaethau manwl ar y Pedair Cainc gan geisio olrhain esblygiad y chwedlau yn ôl i’w ffynonellau yn y traddodiad llafar. Daeth o hyd i fotiffau tebyg mewn chwedlau canoloesol eraill, a rhai Gwyddelig yn arbennig, oedd yn awgrymu llinach posibl i’r ceinciau ysgrifenedig. Yn fras, roedd W.J. Gruffydd yn ceisio ail-lunio mytholeg goll. Ymysg gweddillion hen adfail, chwiliodd am gynllun y deml wreiddiol. Ceisiodd ddirnad rhesymeg wreiddiol y naratif, yr hen ystyr a ddifethwyd gan ymyrraeth cenedlaethau o gyfarwyddiaid a chopïwyr anwybodus.

Erbyn ail hanner yr 20fed ganrif roedd y consensws academaidd wedi troi yn erbyn W.J. Gruffydd. Er bod llawer o’i dystiolaeth yn ddefnyddiol, gwelodd llawer o feirniaid nad oedd ei gasgliadau’n llawer gwell na rhagdybiaethau. Yng ngeiriau Brynley F. Roberts:

“Llwyddodd dadansoddiad Gruffydd i ddangos yn eglur pa ddefnyddiau sydd yn y Pedair Cainc, ond rhaid amau a fodolai’r adeiledd mawreddog cywrain a gynigiai y tu allan i’w feddwl ei hun.” Brynley F. Roberts, Rhagymadrodd, Y Mabinogion, Dafydd a Rhiannon Ifans, xviii

Yn ddiweddarach, dywedodd Sioned Davies rhywbeth tebyg

“. . . , y farn gyffredinol bellach yw bod dychymyg Gruffydd wedi mynd yn rhemp ac nad oes sail gadarn i’w ddamcaniaethau.” Sioned Davies, Crefft y Cyfarwydd, 49.

Ond dim ond un ochr i’r stori ydi hon, ac er mor andwyol oedd i’w yrfa academaidd, yn y pen draw efallai mai ei ddychymyg oedd un o’i ddoniau mwyaf. Ynghyd â bod yn ddarlithydd prifysgol, roedd Gruffydd hefyd yn fardd, ac nid rhyw rigymwr dibwys chwaith. Os tanseiliwyd ei wrthrychedd academaidd gan ei ddychymyg bywiog, rhoddodd iddo awen rymus. Gadawodd ar ei ôl rhai o gerddi gorau’r 20fed ganrif, nid y peth hawsaf yn y byd i’w gyflawni wrth ystyried pa mor niferus mae beirdd o athrylith ymysg y Cymry. Mae un o’i gerddi gorau, Y Tlawd Hwn, yn dweud llawer am ei berthynas gyda chwedloniaeth Gymreig:

Y Tlawd Hwn

Am fod rhyw anesmwythyd yn y gwynt,                                                                              A sŵn hen wylo yng nghuriadau’r glaw,                                                                               Ac eco’r lleddf adfydus odlau gynt                                                                                      Yn tiwnio drwy ei enaid yn ddi-daw,                                                                                    A thrymru cefnfor pell ar noson lonydd                                                                                Yn traethu rhin y cenedlaethau coll,                                                                                       A thrydar yr afonydd                                                                                                           Yn deffro ing y dioddefiannau oll, –                                                                                    Aeth hwn fel mudan i ryw rith dawelwch,                                                                               a chiliodd ei gymrodyr un ac un,                                                                                          A’i adel yntau yn ei fawr ddirgelwch                                                                                      I wrando’r lleisiau dieithr wrtho’i hun.

Gwelodd hwn harddwch lle bu’i frodyr ef                                                                            Yn galw melltith Duw ar aflan fyd;                                                                            Gwrthododd hwn eu llwybrau hwy i nef                                                                             Am atsain ansylweddol bibau hud                                                                                        A murmur gwenyn Arawn o winllannau                                                                                Yn drwm dan wlith y mêl ar lawr y glyn,                                                                                 A neithdar cudd drigfannau                                                                                     Magwyrydd aur Caer Siddi ar y bryn.                                                                                    A chyn cael bedd, cadd eistedd wrth y gwleddoedd                                                             A llesmair wrando anweledig gôr                                                                                     Adar Rhiannon yn y perl gynteddoedd                                                                                   Sy’n agor ar yr hen anghofus fôr.

Clywir yma Gruffydd yn disgrifio’i berthynas gyda’i chwedloniaeth frodorol. Iddo ef mae’n dirwedd elfennol a chysegredig, cyfrin a diamser. Mae’n fyd arall sy’n cyffwrdd rhywsut â’r byd hwn. Mae’n amlwg cafodd Gruffydd ei gyfareddu gan chwedlau ei draddodiad brodorol, i’r fath raddau fel iddo bortreadu ei hun yn encilio i fyw yn y byd arall hwnnw. Drwy astudio testunau canoloesol fel rhan o’i ymchwil academaidd, cafodd ei drwytho yn y testunau hynafol hyn; rhoddwyd cyfle iddo yfed yn ddwfn o ffynhonnau’r arallfyd rhyfeddol hwnnw a etifeddodd drwy ei iaith a’i ddiwylliant. Credaf fod profiad W.J. Gruffydd yn dadlennu un o nodweddion pwysicaf ein chwedloniaeth a’n traddodiad barddol.

Os ydi barddoniaeth orau Gruffydd yn enghraifft o beth sy’n digwydd pan mae dychymyg bardd yn cael ei danio gan ei fytholeg frodorol, nid rhyfedd fod beirdd Cymraeg yr Oesoedd Canol wedi cael eu denu’n gyson at yr un deunydd. Roedd yr ysgolion barddol Cymreig yn gyfrifol am greu catalogau hirfaith o chwedlau brodorol o’r enw’r trioedd, ac mae’n debyg ei bod hi wedi bod yn ofynnol i brentisiaid barddol ddysgu nid yn unig y trioedd eu hunain, ond y chwedlau y cyfeirient atynt hefyd. Byddai nifer o feirdd yn sicr wedi mynd cam ymhellach, gan eu hadrodd neu eu darllen yn gyhoeddus. Byddai nifer o’r rheiny a drwythwyd yn eu chwedlau brodorol wedi cael eu symbylu yn yr un modd â Gruffydd. Fel sbardun creadigol, mae’n amlwg pa fath o effaith byddai’r deunydd yma’n ei gael ar fardd parod a galluog. Er na allwn ni dderbyn ei gasgliadau academaidd, mae’n eironig mai yng ngwaith creadigol W.J. Gruffydd y cawn un o’r arwyddion egluraf o effaith y chwedlau hyn.

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s